2014 Rhif 3267 (Cy. 334)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012 (“Rheoliadau 2012”) yn gwneud darpariaeth i dreialu darpariaethau Deddf Addysg 1996 (ar apelau anghenion addysgol arbennig) a Deddf Cydraddoldeb 2010 (ar hawliadau gwahaniaethu ar sail anabledd) fel y’u diwygiwyd gan Ran 1 o Fesur Addysg (Cymru) 2009 (“y Mesur”). Effaith Rheoliadau 2012, o’u cyfuno â’r darpariaethau yng Ngorchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012 (“y Gorchymyn Cychwyn”) yw nad yw’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 o’r Mesur i Ddeddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gymwys ond at ddibenion treialu yn ardaloedd awdurdodau lleol Sir Caerfyrddin a Wrecsam.

Roedd Rheoliadau 2012 yn gymwys o 6 Mawrth 2012 ac roeddent yn darparu y byddent yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 30 Mehefin 2015. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2012 yn eu cyfanrwydd o ddyddiad cynharach, sef 5 Ionawr 2015. Mae rheoliad 2 hefyd yn darparu bod erthygl 4 o’r Gorchymyn Cychwyn wedi ei dirymu. Roedd honno yn darparu ar gyfer parhau i gymhwyso adrannau 332A a 332B o Ddeddf Addysg 1996 i awdurdodau lleol yng Nghymru nad oeddent yn rhan o’r treialu, fel pe na bai’r diwygiadau a wnaed i’r adrannau hynny gan y Mesur mewn grym.

Effaith y dirymiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yw dod â’r treialu i ben gyda’r canlyniad bod y diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996 a Deddf Cydraddoldeb 2010 a wneir gan Ran 1 o’r Mesur yn gymwys i’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth Yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


2014 Rhif 3267 (Cy. 334)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014

Gwnaed                               11 Rhagfyr 2014

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

                                          15 Rhagfyr 2014

Yn dod i rym                           5 Ionawr 2015

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 17(1) a (2) a 24(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2009([1]):

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) (Dirymu) 2014 a deuant i rym ar 5 Ionawr 2015.

Dirymu

2.(1)(1) Mae Rheoliadau Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Treialu) 2012([2]) wedi eu dirymu.

(2) Mae erthygl 4 o Orchymyn Mesur Addysg (Cymru) 2009 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol) 2012([3]) wedi ei dirymu.

 

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

11 Rhagfyr  2014



([1])           2009 mccc 5. Diwygiwyd adran 17 gan erthygl 11 o Orchymyn Hawl Plentyn i Wneud Hawliad Gwahaniaethu ar sail Anabledd (Ysgolion) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/1651 (Cy. 187)).

([2])           O.S. 2012/321 (Cy. 52).

([3])           O.S. 2012/320 (Cy. 51) (C. 10).